Cwrdd â 10,001 o bobl o wlad arall

Cofnodwyd: Dydd Mawrth 20th Hydref 2020

Roeddem yn myfyrio ar ein datblygiad proffesiynol yn ein swyddogaethau’n ddiweddar. Ar ôl bod yn rhan o adeiladu Fy Nhîm Cymorth o syniad gwreiddiol i raglen ranbarthol dros y 15 mlynedd ddiwethaf, rydym wedi ymgynefino â sut y gall pethau fod yn y maes ymarfer hwn. Gan fwrw golwg dros y blynyddoedd, bu’n camgymeriadau niferus yn gyfrwng myfyrdod. Un ymhlith llawer oedd cyfnod o deimlo fel pe baem yn gwybod yn union beth oedd beth, a beth i'w wneud yn ei gylch. Drwy drugaredd, wrth edrych ’nôl, roedd yn gyfnod pan amlygodd modelau a phatrymau o'r anhrefn llethol gwreiddiol. Mewn rhai ffyrdd roedd wedi teimlo fel hedfan yn uchel, gorchfygu'r anhysbys, ond o gofio'n fanylach, roedd hefyd wedi teimlo bod rhywbeth ar goll. Ac yn wir yr oedd.

Daeth trosiad i’n meddwl: Pan gyfarfyddwn â'r person cyntaf rydym ni erioed wedi cwrdd o wlad arall, mae’n llygaid yn llydan agored i’w harchwilio, yn llawn chwilfrydedd. Eto, pan gyfarfyddwn â'r degfed person o'r wlad hon, maent yn dal yn ddirgelwch i ni ac rydym yn parhau i fod yn chwilfrydig. Ond flynyddoedd yn ddiweddarach, pan fyddwn wedi cwrdd â 10,000 o bobl o'r lle pellennig hwn gallem, yn hollol ddealladwy, dybio ein bod yn gwybod beth maent yn mynd i ddweud wrthym. A phan ymddengys y 10,001fed person o’r lle hwn o’n blaenau, hwyrach y meddyliwn ein bod yn adnabod y person hwn cyn iddo siarad. Gallem deimlo’n gwbl fodlon y gallwn ragweld ac ymateb yn effeithlon i’r hyn sy’n dilyn. Onid ydym yn gwneud yn dda i allu symud mor gyflym? Cyflymder, gaiff ei werthfawrogi a’i wobrwyo yn y byd prysur hwn y cawn ein hunain ynddo.

Ond wrth gwrs mae ’na broblem. Er ein bod eisoes wedi cwrdd â 10,000 o bobl o'r wlad arall hon, allwn ni fyth bythoedd ag adnabod yr 10,001fed person ar unwaith. Wrth geisio deall y person nesaf hwn, gallai’n profiad blaenorol o'r materion sy'n ymwneud â bod yn berson o'r wlad arall fod yn adnodd i ni i raddau. Ond yna eto efallai na fydd.

Ddegawdau yn ôl, dechreuodd Harlene Anderson a Harry Goolishian siarad am gymryd safiad 'ddim yn gwybod' mewn therapi teulu systemig. Cyn ac ers hynny, mae seicotherapyddion o lawer o wahanol draddodiadau yn parhau i bwysleisio ansawdd therapiwtig hanfodol chwilfrydedd a didwylledd i'r person arall.

Os credwn ein bod wedi cwrdd â rhywun o'r blaen dim ond oherwydd ein bod wedi datblygu model yn seiliedig ar gyn-brofiad blaenorol, rydym yn camgymryd. Gall y mathau hyn o gamgymeriadau ein harwain i weld pobl fel gwrthrychau a methu â gweld eu dynoliaeth, canolbwyntio'n unig ar yr hyn sydd yr un peth am bawb yn lle hefyd yr hyn sy'n wahanol, rhoi pobl mewn categorïau a delio â hwy gan ddefnyddio offerynnau di-fin. Ac efallai'n waeth fyth, os nad ydyn nhw'n cydymffurfio â'r model rydym ni wedi'i adeiladu, rydym ni'n eu patholegu, ac yn cael gwared arnyn nhw fel haenen allanol flêr.

Gallai modelu torfol fod yn aur pur mewn cyd-destunau fel ffatrïoedd a labordai mathemateg, ond nid gwrthrychau na rhifau yw pobl. Rydym yn llawer mwy na'r hyn y gellir ei ragweld. Rydym hefyd yn ddirgelwch hardd. Mewn ymarfer seicolegol, mae angen i ni gydio’n ysgafn yn ein modelau, a gosod y person unigryw ac arbennig yn gyflawn ger ein bron bob amser.

Jen & Jael

 

Sylwadau
Ychwanegu Sylwadau

Chwilio Blogiau