Pwy sy'n talu am ofal maeth? …

Cofnodwyd: Dydd Mawrth 6th Hydref 2020

Wrth gwrdd â gofalwyr maeth a'u plentyn maeth tymor hir ychydig yn ôl, daethom wyneb yn wyneb â phosibilrwydd pryderus ynghylch y system ofal. Siaradodd y gofalwyr maeth hyn am eu penderfyniad i ddod â lleoliad y plentyn maeth i ben. Egluron nhw fod gan y plentyn anghenion seicolegol cymhleth a’u bod wedi methu â chael unrhyw gymorth iddi er gwaethaf eu hymdrechion niferus dros y ddegawd ddiwethaf. Aethant ymlaen i egluro ei bod yn ymddangos nad oedd y plentyn yn gwneud unrhyw gynnydd yn eu gofal a'u bod wedi dechrau teimlo nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth gwerthfawr i’w gynnig iddi mwyach. Dywedodd y plentyn ei hun 'Rwy'n teimlo fy mod i'n mynd tuag yn ôl'.

Esboniodd y gofalwyr eu bod wedi dod yn ofalwyr maeth ugain mlynedd yn ôl, nid am yr arian gan nad oedd hwnnw’n llawer, nac am statws na diolch gan mai prin oedd y rheiny, ond am y wobr o helpu plant i symud ymlaen ar ôl dechrau caled iawn mewn bywyd. Dywedodd y gofalwyr, wrth eu gweld yn mynd trwy gyfnod anodd gyda’u plant maeth, i’w ffrindiau a'u teulu ofyn iddyn nhw dro ar ôl tro 'pam ydych chi’n gwneud hyn? '. Mewn ymateb, paentiodd y gofalwyr lun: 'Mae plant bach yn dod at ein drws, mae’u gwallt yn glymau i gyd, maen nhw'n llwgu ac maen nhw'n gwisgo dillad brwnt. ‘Ry’m ni'n golchi, brwsio a chribo’u gwallt. ‘Ry’m ni'n eu gwisgo mewn dillad glân ffres, ac ‘ry’m ni'n llenwi’u boliau. Maen nhw'n hapus ac maen nhw'n ffynnu. Dyna pam ‘ry’m ni'n gwneud hyn'.

Deellir yn gyffredin, ac yn anad dim gan y gofalwyr penodol hyn, y gall plant â bywydau cynnar trawmatig yn aml ei chael hi'n anodd derbyn gofal a ffynnu. Mae'n fwy cymhleth na hynny, wrth gwrs. Mae profiadau trawma perthynol cynnar y plant hyn yn aml yn effeithio ar eu hymdeimlad ohonynt eu hunain i fod yn deilwng o ofal da, a'u hymdeimlad o eraill fel rhai dibynadwy. Gyda'r amheuon hyn yn corddi, gall fod yn anodd meithrin ymddiriedaeth a derbyn gofal gan oedolion. Mae’n gofalwyr maeth yn y stori hon yn defnyddio’u gwerthfawrogiad o hyn i gynnal eu hunain drwy flynyddoedd o faethu. Fodd bynnag, gwnaethant un peth yn eglur iawn i ni: Os nad oes rheswm arall dros faethu plentyn na gwobrwyo’i gynnydd, mae'r pwysau ar y plentyn hwnnw i ffynnu o'r gofal a gynigir. Ar un ystyr, efallai ar ôl cael eu tynnu oddi ar eu rhieni biolegol eu hunain, bod yn rhaid i blant dalu am eu cyfnod gyda rhieni maeth yn yr arian cyfred o wneud cynnydd. Ac os na all y plant hyn symud ymlaen bob amser? A oes digon o unrhyw beth arall yn y system i gadw’u gofalwyr maeth rhag rhoi’r gorau iddi? Ac os nad oes, a ydym wir yn dweud bod plant nad ydynt yn gallu gwobrwyo’u  gofalwyr i fod yn ddioddefwyr colled ac amddifadedd unwaith eto ?

Nid oes unrhyw un yn bwriadu creu cyd-destun mor ddifreintiedig ar gyfer teuluoedd maeth, ac mae llawer o bobl yn gwneud eu gorau glas i ddarparu'r hyn y gallant o gofio’u hamgylchiadau. Ond, os caniateir i amddifadedd ddod yn elfen ganolog o’r system ofal, yna sut gellir gweithredu’n foesol yr hawl i dynnu plant oddi ar eu teuluoedd biolegol?

Mae’n plant mwyaf agored i niwed yn haeddu llawer mwy nag amddifadedd parhaus. Maent yn haeddu profi rhianta da yn rhad ac am ddim, nid yn unig os gallant dalu amdano gyda chynnydd. Ac i ryddhau plant o'r baich gwarthus hwn, mae angen i oedolion dalu’r pris. Ble mae'r gwasanaethau seicolegol, cymdeithasol ac addysgol cynhwysfawr, cydgysylltiedig y mae eu hangen ar blant a'u teuluoedd maeth? Ar gael yn systematig , o ansawdd uchel, yn hygyrch ac yn ymatebol. Nid yw'n ormod i'w ofyn. Mae’n greiddiol.

Jen & Jael

Sylwadau
Ychwanegu Sylwadau

Chwilio Blogiau