Astudio'n hunain ...

Cofnodwyd: Dydd Gwener 10th Gorffennaf 2020

Er y gallwn fel rhai â bys ymhob briwes, fwynhau ychydig lwc fel dechreuwyr, i wir feistroli crefft, mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae’n gweithio. Mae mecanig yn gwybod sut mae injan yn gweithio. Mae cogydd yn gwybod sut mae sbageti bolognaise yn gweithio. Mae rhiant yn gwybod sut mae Nadolig teulu yn gweithio. Er y gellir datblygu gwybodaeth am rai pynciau trwy eu hastudio o'r tu allan, o ran eu natur, dim ond trwy eu hastudio o'r tu fewn yn ogystal y gellir meistroli gwybodaeth am bynciau eraill.  Yn amlwg, nid oes angen i'r mecanig medrus fod yn sbroced i lwyr ddeall yr injan. Fel mae’n rhaid i’r gogyddes ragorol flasu ei bwyd, mae'n rhaid i'r rhiant hapus fod wedi cael profiad o bob un o wyliau a dathliadau plentyndod er mwyn gwybod yn hollol beth yw goblygiadau delio â’r Nadolig.

Yn y modd hwn, mae angen i'r ymarferydd seicolegol wybod sut mae meddyliau'n gweithio. Ac ar ôl astudio’r pwnc hwn yn academaidd ac mewn hyfforddiant clinigol, beth yw’r cam naturiol nesaf ond ymgynefino â’n meddyliau ein hunain?  Mewn damcaniaeth seicolegol, mae’r  cysyniad o empathi; sut gallwn ni fodau dynol wir werthfawrogi'r hyn mae eraill yn mynd drwyddo heb fynd trwy'r union beth yn yr un ffordd ein hunain. Ond nid ymgais deg i ddyfalu   pa fath o brofiad wyneba rhywun arall yw empathi. Mae'n gynnyrch gwybod yn union ein profiad ein hunain.  

I wybod ein profiad ein hunain neu brofiad unrhyw un arall, mae’n rhaid i ni’n gyntaf fod yn ymwybodol o’r hyn sydd yn mynd ymlaen, nid yn unig  yn ein  bywydau ni’n hunain, ond ym mywydau eraill hefyd, gan roi o’r neilltu’n syniadau blaenorol a thalu sylw manwl i'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd.  

am y modd, yn gynnar mewn bywyd, nad oedd hi wedi teimlo fel pobl gyffredin eraill. Bryd hynny, ymddangosai iddi hi fod ei theulu’n  mynd drwy rywbeth anghyffredin iawn. Felly gwnaeth ei meddwl yr Pan ddaw i empathi ynghylch yr hyn mae person arall yn ei brofi, mae’n rhaid i ni ddwyn i gof rai o brofiadau’n hunain hadleisio mewn rhai ffyrdd. Er enghraifft, nid wyf i wedi profi cael fy nhynnu o ofal fy rhieni, ond rwyf wedi hiraethu am berson arall, wedi teimlo'n ddi-rym, ac wedi bod yn estron o fewn grŵp newydd . Ni allaf wybod mai dyma sut mae plentyn mewn gofal maeth yn teimlo, ond mae'r profiadau hyn ar gael imi wrth geisio deall y plentyn hwnnw.  

Ac yna mae dealltwriaeth empathig o sut mae’n meddyliau'n gweithredu. Pan astudiwn ein meddyliau’n hunain yn fanwl, dechreuwn weld ein cogiau a'n sbrocedi’n troelli.  

Mewn sgwrs â chydweithwraig yn ddiweddar, cyfeiriwyd at y modd y gweithredai ei meddwl. Wrth sgwrsio soniodd hyn y gall meddyliau ei wneud; gwahanodd y byd yn gategorïau. Yn ei hachos hi, categorïau o 'gyffredin' ac 'anghyffredin'. Ar ôl hynny, roedd popeth yn ymddangos fel petaent yn syrthio i un categori neu’r llall, ond byth eto i’r ddau gategori neu i ddim un ohonynt. Ar y sylfaen hon fe dyfodd gwareiddiad. Daeth yn rhywun a oedd yn well ganddi fod yn anghyffredin ac edrychodd i lawr ychydig ar bobl a phethau cyffredin. Roedd hyn yn fendigedig iddi hi mewn sawl ffordd wrth iddi gamu rhagddi i harddwch yr avant garde. Fodd bynnag, roedd rhai anfanteision hefyd: Cafodd hi'n anodd closio at bobl a ymddangosai iddi’n gyffredin. Ac fe ddyheai weithiau am fod yn gyffredin ei hun. I ymuno. I gael seibiant rhag y pwysau o fod yn anghyffredin.  

'Ai dyna fel mae meddyliau'n gweithio?' gofynnodd fy nghyd-weithwraig iddi hi’i hun, gan edrych i fyny o ystyried ei stori benodol ei hun. 'Mae mor ddefnyddiol gwybod hynny. Mae'n gwneud i mi feddwl am ferch ifanc rwy’n gweithio gyda hi. Mae'n dweud wrthyf nad yw’n teimlo’n normal. Yn flaenorol, byddwn yn ei hannog i dderbyn hynny a gwerthfawrogi nad yw hi 'ddim ond yn normal'. Ond nawr rwy'n meddwl nad yw hynny'n hollol briodol. Nawr rwyf eisiau ei helpu i weld bod peidio â theimlo'n normal yn brofiad hollol normal. Rwyf hefyd eisiau ei helpu i weld y gall ddewis peidio â phoeni a yw hi'n normal ai peidio, gall hi fod yn hi ei hun yn unig'.

Mewn ymarfer therapi seicolegol, nid yw astudio’n hunain yn foethusrwydd hunan- ymlaciol. Yn atgofion a dadansoddiadau’r 'fi' mae'n bosib iawn y byddwn yn darganfod rhywbeth pwysig am ddadansoddiad pob un ohonom. A chyda hyn, mae'n bosib iawn y, sy’n ymdebygu i brofiadau eraill ac yn eu

gallem ni fod yn ddefnyddiol iawn i bobl eraill. 

Jen & Jael 

Sylwadau
Ychwanegu Sylwadau

Chwilio Blogiau